Psalms 58

Gweddi ar i Dduw gosbi'r rhai drwg

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Paid dinistrio". Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd.

1Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn?
Ydych chi'n barnu pobl yn deg?
2Na! Dych chi'n anghyfiawn,
ac yn lledu trais ym mhobman.
3Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni;
yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.
4Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,
neu gobra sy'n cau ei chlustiau.
5Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,
er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.
6Torra eu dannedd nhw, O Dduw!
Dryllia ddannedd y llewod ifanc, Arglwydd.
7Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;
gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.
8Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;
neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!
9Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt,
cyn i grochan deimlo gwres tân agored.
10Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch.
Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg!
11A bydd pobl yn dweud,
“Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr!
Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!”
Copyright information for CYM